14. Misma hefyd, a Duma, a Massa,
15. Hadar, a Thema, Jetur, Naffis, a Chedema.
16. Dyma hwy meibion Ismael, a dyma eu henwau hwynt wrth eu trefydd, ac wrth eu cestyll; yn ddeuddeg o dywysogion yn ôl eu cenhedloedd.
17. A dyma flynyddoedd einioes Ismael; can mlynedd a dwy ar bymtheg ar hugain o flynyddoedd: yna y trengodd, ac y bu farw, ac y casglwyd ef at ei bobl.
18. Preswyliasant hefyd o Hafila hyd Sur, yr hon sydd o flaen yr Aifft, ffordd yr ei di i Asyria: ac yng ngŵydd ei holl frodyr y bu efe farw.
19. A dyma genedlaethau Isaac fab Abraham: Abraham a genhedlodd Isaac.
20. Ac Isaac oedd fab deugain mlwydd pan gymerodd efe Rebeca ferch Bethuel y Syriad, o Mesopotamia, chwaer Laban y Syriad, yn wraig iddo.
21. Ac Isaac a weddïodd ar yr Arglwydd dros ei wraig, am ei bod hi yn amhlantadwy; a'r Arglwydd a wrandawodd arno ef, a Rebeca ei wraig ef a feichiogodd.
22. A'r plant a ymwthiasant â'i gilydd yn ei chroth hi: yna y dywedodd hi, Os felly, beth a wnaf fi fel hyn? A hi a aeth i ymofyn â'r Arglwydd.
23. A'r Arglwydd a ddywedodd wrthi hi, Dwy genedl sydd yn dy groth di, a dau fath ar bobl a wahenir o'th fru di; a'r naill bobl fydd cryfach na'r llall, a'r hynaf a wasanaetha'r ieuangaf.
24. A phan gyflawnwyd ei dyddiau hi i esgor, wele, gefeilliaid oedd yn ei chroth hi.