Genesis 24:65-67 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

65. Canys hi a ddywedasai wrth y gwas, Pwy yw y gŵr hwn sydd yn rhodio yn y maes i'n cyfarfod ni? A'r gwas a ddywedasai, Fy meistr yw efe: a hi a gymerth orchudd, ac a ymwisgodd.

66. A'r gwas a fynegodd i Isaac yr hyn oll a wnaethai efe.

67. Ac Isaac a'i dug hi i mewn i babell Sara ei fam; ac efe a gymerth Rebeca, a hi a aeth yn wraig iddo, ac efe a'i hoffodd hi: ac Isaac a ymgysurodd ar ôl ei fam.

Genesis 24