Genesis 24:16-25 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

16. A'r llances oedd deg odiaeth yr olwg, yn forwyn, a heb i ŵr ei hadnabod; a hi a aeth i waered i'r ffynnon, ac a lanwodd ei hystên, ac a ddaeth i fyny.

17. A'r gwas a redodd i'w chyfarfod, ac a ddywedodd, Atolwg, gad i mi yfed ychydig ddwfr o'th ystên.

18. A hi a ddywedodd, Yf, fy meistr: a hi a frysiodd, ac a ddisgynnodd ei hystên ar ei llaw, ac a'i diododd ef.

19. A phan ddarfu iddi ei ddiodi ef, hi a ddywedodd, Tynnaf hefyd i'th gamelod, hyd oni ddarffo iddynt yfed.

20. A hi a frysiodd, ac a dywalltodd ei hystên i'r cafn, ac a redodd eilwaith i'r pydew i dynnu, ac a dynnodd i'w holl gamelod ef.

21. A'r gŵr, yn synnu o'i phlegid hi, a dawodd, i wybod a lwyddasai yr Arglwydd ei daith ef, ai naddo.

22. A bu, pan ddarfu i'r camelod yfed, gymryd o'r gŵr glustlws aur, yn hanner sicl ei bwys; a dwy freichled i'w dwylo hi, yn ddeg sicl o aur eu pwys.

23. Ac efe a ddywedodd, Merch pwy ydwyt ti? mynega i mi, atolwg: a oes lle i ni i letya yn nhŷ dy dad?

24. A hi a ddywedodd wrtho, Myfi ydwyf ferch i Bethuel fab Milca, yr hwn a ymddûg hi i Nachor.

25. A hi a ddywedodd wrtho ef, Y mae gwellt ac ebran ddigon gennym ni, a lle i letya.

Genesis 24