Genesis 24:11-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. Ac efe a wnaeth i'r camelod orwedd o'r tu allan i'r ddinas, wrth bydew dwfr ar brynhawn, ynghylch yr amser y byddai merched yn dyfod allan i dynnu dwfr.

12. Ac efe a ddywedodd, O Arglwydd Dduw fy meistr Abraham, atolwg, pâr i mi lwyddiant heddiw; a gwna drugaredd â'm meistr Abraham.

13. Wele fi yn sefyll wrth y ffynnon ddwfr, a merched gwŷr y ddinas yn dyfod allan i dynnu dwfr:

14. A bydded, mai y llances y dywedwyf wrthi, Gogwydda, atolwg, dy ystên, fel yr yfwyf; os dywed hi, Yf, a mi a ddiodaf dy gamelod di hefyd; honno a ddarperaist i'th was Isaac: ac wrth hyn y caf wybod wneuthur ohonot ti drugaredd â'm meistr.

15. A bu, cyn darfod iddo lefaru, wele Rebeca yn dyfod allan, (yr hon a anesid i Bethuel fab Milca, gwraig Nachor, brawd Abraham,) a'i hystên ar ei hysgwydd.

16. A'r llances oedd deg odiaeth yr olwg, yn forwyn, a heb i ŵr ei hadnabod; a hi a aeth i waered i'r ffynnon, ac a lanwodd ei hystên, ac a ddaeth i fyny.

17. A'r gwas a redodd i'w chyfarfod, ac a ddywedodd, Atolwg, gad i mi yfed ychydig ddwfr o'th ystên.

18. A hi a ddywedodd, Yf, fy meistr: a hi a frysiodd, ac a ddisgynnodd ei hystên ar ei llaw, ac a'i diododd ef.

Genesis 24