Genesis 24:1-3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac Abraham oedd hen, wedi myned yn oedrannus; a'r Arglwydd a fendithiasai Abraham ym mhob dim.

2. A dywedodd Abraham wrth ei was hynaf yn ei dŷ, yr hwn oedd yn llywodraethu ar yr hyn oll a'r a oedd ganddo, Gosod, atolwg, dy law dan fy morddwyd:

3. A mi a baraf i ti dyngu i Arglwydd Dduw y nefoedd, a Duw y ddaear, na chymerech wraig i'm mab i o ferched y Canaaneaid, y rhai yr ydwyf yn trigo yn eu mysg:

Genesis 24