1. Ac oes Sara ydoedd gan mlynedd a saith mlynedd ar hugain; dyma flynyddoedd oes Sara.
2. A Sara a fu farw yng Nghaer‐Arba; honno yw Hebron yn nhir Canaan: ac Abraham a aeth i alaru am Sara, ac i wylofain amdani hi.
3. Yna y cyfododd Abraham i fyny oddi gerbron ei gorff marw, ac a lefarodd wrth feibion Heth, gan ddywedyd,
4. Dieithr ac alltud ydwyf fi gyda chwi: rhoddwch i mi feddiant beddrod gyda chwi, fel y claddwyf fy marw allan o'm golwg.
5. A meibion Heth a atebasant Abraham, gan ddywedyd wrtho,
6. Clyw ni, fy arglwydd: tywysog Duw wyt ti yn ein plith: cladd dy farw yn dy ddewis o'n beddau ni: ni rwystr neb ohonom ni ei fedd i ti i gladdu dy farw.
7. Yna y cyfododd Abraham, ac a ymgrymodd i bobl y tir, sef i feibion Heth;
8. Ac a ymddiddanodd â hwynt, gan ddywedyd, Os yw eich ewyllys i mi gael claddu fy marw allan o'm golwg, gwrandewch fi, ac eiriolwch trosof fi ar Effron fab Sohar;