Genesis 22:15-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

15. Ac angel yr Arglwydd a alwodd ar Abraham yr ail waith o'r nefoedd;

16. Ac a ddywedodd, I mi fy hun y tyngais, medd yr Arglwydd, oherwydd gwneuthur ohonot y peth hyn, ac nad ateliaist dy fab, dy unig fab:

17. Mai gan fendithio y'th fendithiaf, a chan amlhau yr amlhaf dy had, fel sêr y nefoedd, ac fel y tywod yr hwn sydd ar lan y môr; a'th had a feddianna borth ei elynion;

18. Ac yn dy had di y bendithir holl genhedloedd y ddaear: o achos gwrando ohonot ar fy llais i.

19. Yna Abraham a ddychwelodd at ei lanciau; a hwy a godasant, ac a aethant ynghyd i Beer‐seba: ac Abraham a drigodd yn Beer‐seba.

20. Darfu hefyd, wedi'r pethau hyn, fynegi i Abraham, gan ddywedyd, Wele, dug Milca hithau hefyd blant i Nachor dy frawd;

21. Hus ei gyntaf‐anedig, a Bus ei frawd; Cemuel hefyd tad Aram,

22. A Chesed, a Haso, a Phildas, ac Idlaff, a Bethuel.

23. A Bethuel a genhedlodd Rebeca: yr wyth hyn a blantodd Milca i Nachor brawd Abraham.

24. Ei ordderchwraig hefyd, a'i henw Reuma, a esgorodd hithau hefyd ar Teba, a Gaham, a Thahas, a Maacha.

Genesis 22