Genesis 22:11-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. Ac angel yr Arglwydd a alwodd arno ef o'r nefoedd, ac a ddywedodd, Abraham, Abraham. Yntau a ddywedodd, Wele fi.

12. Ac efe a ddywedodd, Na ddod dy law ar y llanc, ac na wna ddim iddo: oherwydd gwn weithian i ti ofni Duw, gan nad ateliaist dy fab, dy unig fab, oddi wrthyf fi.

13. Yna y dyrchafodd Abraham ei lygaid, ac a edrychodd; ac wele o'i ôl ef hwrdd, wedi ei ddal erbyn ei gyrn mewn drysni: ac Abraham a aeth ac a gymerth yr hwrdd, ac a'i hoffrymodd yn boethoffrwm yn lle ei fab.

14. Ac Abraham a alwodd enw y lle hwnnw JEHOFAH‐jire; fel y dywedir heddiw, Ym mynydd yr Arglwydd y gwelir.

15. Ac angel yr Arglwydd a alwodd ar Abraham yr ail waith o'r nefoedd;

16. Ac a ddywedodd, I mi fy hun y tyngais, medd yr Arglwydd, oherwydd gwneuthur ohonot y peth hyn, ac nad ateliaist dy fab, dy unig fab:

17. Mai gan fendithio y'th fendithiaf, a chan amlhau yr amlhaf dy had, fel sêr y nefoedd, ac fel y tywod yr hwn sydd ar lan y môr; a'th had a feddianna borth ei elynion;

18. Ac yn dy had di y bendithir holl genhedloedd y ddaear: o achos gwrando ohonot ar fy llais i.

19. Yna Abraham a ddychwelodd at ei lanciau; a hwy a godasant, ac a aethant ynghyd i Beer‐seba: ac Abraham a drigodd yn Beer‐seba.

20. Darfu hefyd, wedi'r pethau hyn, fynegi i Abraham, gan ddywedyd, Wele, dug Milca hithau hefyd blant i Nachor dy frawd;

21. Hus ei gyntaf‐anedig, a Bus ei frawd; Cemuel hefyd tad Aram,

Genesis 22