Genesis 21:7-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. Hi a ddywedodd hefyd, Pwy a ddywedasai i Abraham y rhoesai Sara sugn i blant? canys mi a esgorais ar fab yn ei henaint ef.

8. A'r bachgen a gynyddodd, ac a ddiddyfnwyd: ac Abraham a wnaeth wledd fawr ar y dydd y diddyfnwyd Isaac.

9. A Sara a welodd fab Agar yr Eifftes, yr hwn a ddygasai hi i Abraham, yn gwatwar.

10. A hi a ddywedodd wrth Abraham, Bwrw allan y gaethforwyn hon a'i mab; oherwydd ni chaiff mab y gaethes hon gydetifeddu รข'm mab i Isaac.

Genesis 21