Genesis 2:22-25 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

22. A'r Arglwydd Dduw a wnaeth yr asen a gymerasai efe o'r dyn, yn wraig, ac a'i dug at y dyn.

23. Ac Adda a ddywedodd, Hon weithian sydd asgwrn o'm hesgyrn i, a chnawd o'm cnawd i: hon a elwir gwraig, oblegid o ŵr y cymerwyd hi.

24. Oherwydd hyn yr ymedy gŵr â'i dad, ac â'i fam, ac y glŷn wrth ei wraig: a hwy a fyddant yn un cnawd.

25. Ac yr oeddynt ill dau yn noethion, Adda a'i wraig, ac nid oedd arnynt gywilydd.

Genesis 2