33. A hwy a roddasant win i'w tad i yfed y noson honno: a'r hynaf a ddaeth ac a orweddodd gyda'i thad; ac ni wybu efe pan orweddodd hi, na phan gyfododd hi.
34. A thrannoeth y dywedodd yr hynaf wrth yr ieuangaf, Wele, myfi a orweddais neithiwr gyda'm tad; rhoddwn win iddo ef i'w yfed heno hefyd, a dos dithau a gorwedd gydag ef, fel y cadwom had o'n tad.
35. A hwy a roddasant win i'w tad i yfed y noson honno hefyd: a'r ieuangaf a gododd, ac a orweddodd gydag ef; ac ni wybu efe pan orweddodd hi, na phan gyfododd hi.
36. Felly dwy ferch Lot a feichiogwyd o'u tad.
37. A'r hynaf a esgorodd ar fab, ac a alwodd ei enw ef Moab: efe yw tad y Moabiaid hyd heddiw.
38. A'r ieuangaf, hefyd, a esgorodd hithau ar fab, ac a alwodd ei enw ef Benâammi: efe yw tad meibion Ammon hyd heddiw.