Genesis 19:1-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A dau angel a ddaeth i Sodom yn yr hwyr, a Lot yn eistedd ym mhorth Sodom: a phan welodd Lot, efe a gyfododd i'w cyfarfod hwynt, ac a ymgrymodd â'i wyneb tua'r ddaear;

2. Ac efe a ddywedodd, Wele yn awr, fy Arglwyddi, trowch, atolwg, i dŷ eich gwas; lletywch heno hefyd, a golchwch eich traed: yna codwch yn fore, ac ewch i'ch taith. A hwy a ddywedasant, Nage; oherwydd nyni a arhoswn heno yn yr heol.

3. Ac efe a fu daer iawn arnynt hwy: yna y troesant ato, ac y daethant i'w dŷ ef; ac efe a wnaeth iddynt wledd, ac a bobodd fara croyw, a hwy a fwytasant.

4. Eithr cyn gorwedd ohonynt, gwŷr y ddinas, sef gwŷr Sodom, a amgylchasant o amgylch y tŷ, hen ac ieuanc, sef yr holl bobl o bob cwr;

5. Ac a alwasant ar Lot, ac a ddywedasant wrtho, Mae y gwŷr a ddaethant atat ti heno? dwg hwynt allan atom ni, fel yr adnabyddom hwynt.

6. Yna y daeth Lot atynt hwy allan i'r drws, ac a gaeodd y ddôr ar ei ôl;

7. Ac a ddywedodd, Atolwg, fy mrodyr, na wnewch ddrwg.

8. Wele yn awr, y mae dwy ferch gennyf fi, y rhai nid adnabuant ŵr; dygaf hwynt allan atoch chwi yn awr, a gwnewch iddynt fel y gweloch yn dda: yn unig na wnewch ddim i'r gwŷr hyn; oherwydd er mwyn hynny y daethant dan gysgod fy nghronglwyd i.

9. A hwy a ddywedasant, Saf hwnt: dywedasant hefyd, Efe a ddaeth i ymdaith yn unig, ac yn awr ai gan farnu y barna efe? yn awr nyni a wnawn fwy o niwed i ti nag iddynt hwy. A hwy a bwysasant yn drwm ar y gŵr, sef ar Lot, a hwy a nesasant i dorri'r ddôr.

10. A'r gwŷr a estynasant eu llaw, ac a ddygasant Lot atynt i'r tŷ, ac a gaeasant y ddôr.

11. Trawsant hefyd y dynion oedd wrth ddrws y tŷ â dallineb, o fychan i fawr, fel y blinasant yn ceisio'r drws.

Genesis 19