1. A'r Arglwydd a ymddangosodd iddo ef yng ngwastadedd Mamre, ac efe yn eistedd wrth ddrws y babell, yng ngwres y dydd.
2. Ac efe a gododd ei lygaid, ac a edrychodd, ac wele driwyr yn sefyll ger ei fron: a phan eu gwelodd, efe a redodd o ddrws y babell i'w cyfarfod hwynt, ac a ymgrymodd tua'r ddaear,
3. Ac a ddywedodd, Fy Arglwydd, os cefais yn awr ffafr yn dy olwg di, na ddos heibio, atolwg, oddi wrth dy was.
4. Cymerer, atolwg, ychydig ddwfr, a golchwch eich traed, a gorffwyswch dan y pren;
5. Ac mi a ddygaf damaid o fara, a chryfhewch eich calon; wedi hynny y cewch fyned ymaith: oherwydd i hynny y daethoch at eich gwas. A hwy a ddywedasant, Gwna felly, fel y dywedaist.
6. Ac Abraham a frysiodd i'r babell at Sara, ac a ddywedodd, Paratoa ar frys dair ffiolaid o flawd peilliaid, tylina, a gwna yn deisennau.
7. Ac Abraham a redodd at y gwartheg, ac a gymerodd lo tyner a da, ac a'i rhoddodd at y llanc, yr hwn a frysiodd i'w baratoi ef.
8. Ac efe a gymerodd ymenyn, a llaeth, a'r llo a baratoesai efe, ac a'i rhoddes o'u blaen hwynt: ac efe a safodd gyda hwynt tan y pren; a hwy a fwytasant.
9. A hwy a ddywedasant wrtho ef, Mae Sara dy wraig? Ac efe a ddywedodd, Wele hi yn y babell.
10. Ac un a ddywedodd, Gan ddychwelyd y dychwelaf atat ynghylch amser bywoliaeth; ac wele fab i Sara dy wraig. A Sara oedd yn clywed wrth ddrws y babell, yr hwn oedd o'i ôl ef.
11. Abraham hefyd a Sara oedd hen, wedi myned mewn oedran; a pheidiasai fod i Sara yn ôl arfer gwragedd.
12. Am hynny y chwarddodd Sara rhyngddi a hi ei hun, gan ddywedyd, Ai gwedi fy heneiddio y bydd i mi drythyllwch, a'm harglwydd yn hen hefyd?
13. A dywedodd yr Arglwydd wrth Abraham, Paham y chwarddodd Sara fel hyn, gan ddywedyd, A blantaf finnau yn wir, wedi fy heneiddio?
14. A fydd dim yn anodd i'r Arglwydd? Ar yr amser nodedig y dychwelaf atat, ynghylch amser bywoliaeth, a mab fydd i Sara.
15. A Sara a wadodd, gan ddywedyd, Ni chwerddais i: oherwydd hi a ofnodd. Yntau a ddywedodd, Nage, oblegid ti a chwerddaist.