Genesis 15:13-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. Ac efe a ddywedodd wrth Abram, Gan wybod gwybydd, y bydd dy had di yn ddieithr mewn gwlad nid yw eiddynt, ac a'u gwasanaethant, a hwythau a'u cystuddiant bedwar can mlynedd.

14. A'r genhedlaeth hefyd yr hon a wasanaethant, a farnaf fi: ac wedi hynny y deuant allan รข chyfoeth mawr.

15. A thi a ei at dy dadau mewn heddwch: ti a gleddir mewn henaint teg.

16. Ac yn y bedwaredd oes y dychwelant yma; canys ni chyflawnwyd eto anwiredd yr Amoriaid.

17. A bu, pan fachludodd yr haul, a hi yn dywyll, wele ffwrn yn mygu, a lamp danllyd yn tramwyo rhwng y darnau hynny.

18. Yn y dydd hwnnw y gwnaeth yr Arglwydd gyfamod ag Abram, gan ddywedyd, I'th had di y rhoddais y wlad hon, o afon yr Aifft hyd yr afon fawr, afon Ewffrates:

19. Y Ceneaid, a'r Cenesiaid, a'r Cadmoniaid.

20. Yr Hethiaid hefyd, a'r Pheresiaid, a'r Reffaimiaid,

Genesis 15