Genesis 14:17-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

17. A brenin Sodom a aeth allan i'w gyfarfod ef, (wedi ei ddychwelyd o daro Cedorlaomer, a'r brenhinoedd oedd gydag ef,) i ddyffryn Safe, hwn yw dyffryn y brenin.

18. Melchisedec hefyd, brenin Salem, a ddug allan fara a gwin; ac efe oedd offeiriad i Dduw goruchaf:

19. Ac a'i bendithiodd ef, ac a ddywedodd, Bendigedig fyddo Abram gan Dduw goruchaf, meddiannydd nefoedd a daear:

20. A bendigedig fyddo Duw goruchaf, yr hwn a roddes dy elynion yn dy law. Ac efe a roddes iddo ddegwm o'r cwbl.

21. A dywedodd brenin Sodom wrth Abram, Dod i mi y dynion, a chymer i ti y cyfoeth.

22. Ac Abram a ddywedodd wrth frenin Sodom, Dyrchefais fy llaw at yr Arglwydd Dduw goruchaf, meddiannydd nefoedd a daear,

23. Na chymerwn o edau hyd garrai esgid, nac o'r hyn oll sydd eiddot ti; rhag dywedyd ohonot, Myfi a gyfoethogais Abram:

24. Ond yn unig yr hyn a fwytaodd y llanciau, a rhan y gwŷr a aethant gyda mi, Aner, Escol, a Mamre: cymerant hwy eu rhan.

Genesis 14