Genesis 13:10-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. A Lot a gyfododd ei olwg, ac a welodd holl wastadedd yr Iorddonen, mai dyfradwy ydoedd oll, cyn i'r Arglwydd ddifetha Sodom a Gomorra, fel gardd yr Arglwydd, fel tir yr Aifft, ffordd yr elych i Soar.

11. A Lot a ddewisodd iddo holl wastadedd yr Iorddonen, a Lot a aeth tua'r dwyrain: felly yr ymneilltuasant bob un oddi wrth ei gilydd.

12. Abram a drigodd yn nhir Canaan a Lot a drigodd yn ninasoedd y gwastadedd, ac a luestodd hyd Sodom.

13. A dynion Sodom oedd ddrygionus, ac yn pechu yn erbyn yr Arglwydd yn ddirfawr.

14. A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Abram, wedi ymneilltuo o Lot oddi wrtho ef, Cyfod dy lygaid, ac edrych o'r lle yr wyt ynddo, tua'r gogledd, a'r deau, a'r dwyrain, a'r gorllewin.

15. Canys yr holl dir a weli, i ti y rhoddaf ef, ac i'th had byth.

16. Gwnaf hefyd dy had di fel llwch y ddaear; megis os dichon gŵr rifo llwch y ddaear, yna y rhifir dy had dithau.

17. Cyfod, rhodia trwy'r wlad, ar ei hyd, ac ar ei lled; canys i ti y rhoddaf hi.

18. Ac Abram a symudodd ei luest, ac a ddaeth, ac a drigodd yng ngwastadedd Mamre, yr hwn sydd yn Hebron, ac a adeiladodd yno allor i'r Arglwydd.

Genesis 13