Genesis 13:1-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac Abram a aeth i fyny o'r Aifft, efe a'i wraig, a'r hyn oll oedd eiddo, a Lot gydag ef, i'r deau.

2. Ac Abram oedd gyfoethog iawn o anifeiliaid, ac o arian, ac aur.

3. Ac efe a aeth ar ei deithiau, o'r deau hyd Bethel, hyd y lle y buasai ei babell ef ynddo yn y dechreuad, rhwng Bethel a Hai;

4. I le yr allor a wnaethai efe yno o'r cyntaf: ac yno y galwodd Abram ar enw yr Arglwydd.

5. Ac i Lot hefyd, yr hwn a aethai gydag Abram, yr oedd defaid, a gwartheg, a phebyll.

6. A'r wlad nid oedd abl i'w cynnal hwynt i drigo ynghyd; am fod eu cyfoeth hwynt yn helaeth, fel na allent drigo ynghyd.

7. Cynnen hefyd oedd rhwng bugeiliaid anifeiliaid Abram a bugeiliaid anifeiliaid Lot: y Canaaneaid hefyd a'r Pheresiaid oedd yna yn trigo yn y wlad.

8. Ac Abram a ddywedodd wrth Lot, Na fydded cynnen, atolwg, rhyngof fi a thi, na rhwng fy mugeiliaid i a'th fugeiliaid di; oherwydd brodyr ydym ni.

9. Onid yw yr holl dir o'th flaen di? Ymneilltua, atolwg, oddi wrthyf: os ar y llaw aswy y troi di, minnau a droaf ar y ddeau; ac os ar y llaw ddeau, minnau a droaf ar yr aswy.

10. A Lot a gyfododd ei olwg, ac a welodd holl wastadedd yr Iorddonen, mai dyfradwy ydoedd oll, cyn i'r Arglwydd ddifetha Sodom a Gomorra, fel gardd yr Arglwydd, fel tir yr Aifft, ffordd yr elych i Soar.

11. A Lot a ddewisodd iddo holl wastadedd yr Iorddonen, a Lot a aeth tua'r dwyrain: felly yr ymneilltuasant bob un oddi wrth ei gilydd.

12. Abram a drigodd yn nhir Canaan a Lot a drigodd yn ninasoedd y gwastadedd, ac a luestodd hyd Sodom.

13. A dynion Sodom oedd ddrygionus, ac yn pechu yn erbyn yr Arglwydd yn ddirfawr.

Genesis 13