Genesis 12:6-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. Ac Abram a dramwyodd trwy'r tir hyd le Sichem, hyd wastadedd More: a'r Canaaneaid oedd yn y wlad y pryd hwnnw.

7. A'r Arglwydd a ymddangosodd i Abram, ac a ddywedodd, I'th had di y rhoddaf y tir hwn: yntau a adeiladodd yno allor i'r Arglwydd, yr hwn a ymddangosasai iddo.

8. Ac efe a dynnodd oddi yno i'r mynydd, o du dwyrain Bethel, ac a estynnodd ei babell, gan adael Bethel tua'r gorllewin, a Hai tua'r dwyrain: ac a adeiladodd yno allor i'r Arglwydd, ac a alwodd ar enw yr Arglwydd.

9. Ac Abram a ymdeithiodd, gan fyned ac ymdaith tua'r deau.

10. Ac yr oedd newyn yn y tir; ac Abram a aeth i waered i'r Aifft, i ymdeithio yno, am drymhau o'r newyn yn y wlad.

11. A bu, ac efe yn nesáu i fyned i mewn i'r Aifft, ddywedyd ohono wrth Sarai ei wraig, Wele, yn awr mi a wn mai gwraig lân yr olwg wyt ti:

12. A phan welo'r Eifftiaid dydi, hwy a ddywedant, Dyma'i wraig ef; a hwy a'm lladdant i, a thi a adawant yn fyw.

13. Dywed, atolwg, mai fy chwaer wyt ti: fel y byddo da i mi er dy fwyn di, ac y byddwyf fyw o'th blegid di.

14. A bu, pan ddaeth Abram i'r Aifft, i'r Eifftiaid edrych ar y wraig, mai glân odiaeth oedd hi.

15. A thywysogion Pharo a'i gwelsant hi, ac a'i canmolasant hi wrth Pharo: a'r wraig a gymerwyd i dŷ Pharo.

16. Ac efe a fu dda wrth Abram er ei mwyn hi: ac yr oedd ganddo ef ddefaid, a gwartheg, ac asynnod, a gweision, a morynion, ac asennod, a chamelod.

17. A'r Arglwydd a drawodd Pharo a'i dŷ â phlâu mawrion, o achos Sarai gwraig Abram.

18. A Pharo a alwodd Abram, ac a ddywedodd, Paham y gwnaethost hyn i mi? Paham na fynegaist i mi mai dy wraig oedd hi?

19. Paham y dywedaist, Fy chwaer yw hi? fel y cymerwn hi yn wraig i mi: ond yr awr hon wele dy wraig, cymer hi, a dos ymaith.

20. A Pharo a roddes orchymyn i'w ddynion o'i blegid ef: a hwy a'i gollyngasant ef ymaith, a'i wraig, a'r hyn oll oedd eiddo ef.

Genesis 12