Genesis 12:17-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

17. A'r Arglwydd a drawodd Pharo a'i dŷ â phlâu mawrion, o achos Sarai gwraig Abram.

18. A Pharo a alwodd Abram, ac a ddywedodd, Paham y gwnaethost hyn i mi? Paham na fynegaist i mi mai dy wraig oedd hi?

19. Paham y dywedaist, Fy chwaer yw hi? fel y cymerwn hi yn wraig i mi: ond yr awr hon wele dy wraig, cymer hi, a dos ymaith.

20. A Pharo a roddes orchymyn i'w ddynion o'i blegid ef: a hwy a'i gollyngasant ef ymaith, a'i wraig, a'r hyn oll oedd eiddo ef.

Genesis 12