Genesis 11:22-26 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

22. Serug hefyd a fu fyw ddeng mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd Nachor.

23. A Serug a fu fyw wedi iddo genhedlu Nachor, ddau can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

24. Nachor hefyd a fu fyw naw mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd Tera.

25. A Nachor a fu fyw wedi iddo genhedlu Tera, onid un flwyddyn chwech ugain mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

26. Tera hefyd a fu fyw ddeng mlynedd a thrigain, ac a genhedlodd Abram, Nachor, a Haran.

Genesis 11