Genesis 10:6-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. A meibion Cham oedd Cus, a Misraim, a Phut, a Chanaan.

7. A meibion Cus; Seba, a Hafila, a Sabta, a Raama, a Sabteca: a meibion Raama; Seba, a Dedan.

8. Cus hefyd a genhedlodd Nimrod: efe a ddechreuodd fod yn gadarn ar y ddaear.

9. Efe oedd heliwr cadarn gerbron yr Arglwydd: am hynny y dywedir, Fel Nimrod, heliwr cadarn gerbron yr Arglwydd.

10. A dechreuad ei frenhiniaeth ef ydoedd Babel, ac Erech, ac Accad, a Chalne, yng ngwlad Sinar.

11. O'r wlad honno yr aeth Assur allan, ac a adeiladodd Ninefe, a dinas Rehoboth, a Chala,

12. A Resen, rhwng Ninefe a Chala; honno sydd ddinas fawr.

13. Misraim hefyd a genhedlodd Ludim, ac Anamim, a Lehabim, a Nafftwhim,

14. Pathrusim hefyd a Chasluhim, (o'r rhai y daeth Philistim,) a Chafftorim.

15. Canaan hefyd a genhedlodd Sidon ei gyntaf‐anedig, a Heth,

16. A'r Jebusiad, a'r Amoriad, a'r Girgasiad,

17. A'r Hefiad, a'r Arciad, a'r Siniad,

18. A'r Arfadiad, a'r Semariad, a'r Hamathiad: ac wedi hynny yr ymwasgarodd teuluoedd y Canaaneaid.

Genesis 10