Galatiaid 6:7-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. Na thwyller chwi; ni watwarir Duw: canys beth bynnag a heuo dyn, hynny hefyd a fed efe.

8. Oblegid yr hwn sydd yn hau i'w gnawd ei hun, o'r cnawd a fed lygredigaeth: eithr yr hwn sydd yn hau i'r Ysbryd, o'r Ysbryd a fed fywyd tragwyddol.

9. Eithr yn gwneuthur daioni na ddiogwn: canys yn ei iawn bryd y medwn, oni ddiffygiwn.

10. Am hynny tra ydym yn cael amser cyfaddas, gwnawn dda i bawb, ond yn enwedig i'r rhai sydd o deulu'r ffydd.

Galatiaid 6