Galatiaid 6:4-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Eithr profed pob un ei waith ei hun: ac yna y caiff orfoledd ynddo ei hun yn unig, ac nid mewn arall.

5. Canys pob un a ddwg ei faich ei hun.

6. A chyfranned yr hwn a ddysgwyd yn y gair â'r hwn sydd yn ei ddysgu, ym mhob peth da.

7. Na thwyller chwi; ni watwarir Duw: canys beth bynnag a heuo dyn, hynny hefyd a fed efe.

8. Oblegid yr hwn sydd yn hau i'w gnawd ei hun, o'r cnawd a fed lygredigaeth: eithr yr hwn sydd yn hau i'r Ysbryd, o'r Ysbryd a fed fywyd tragwyddol.

9. Eithr yn gwneuthur daioni na ddiogwn: canys yn ei iawn bryd y medwn, oni ddiffygiwn.

10. Am hynny tra ydym yn cael amser cyfaddas, gwnawn dda i bawb, ond yn enwedig i'r rhai sydd o deulu'r ffydd.

11. Gwelwch cyhyd y llythyr a ysgrifennais atoch â'm llaw fy hun.

Galatiaid 6