Galatiaid 6:16-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

16. A chynifer ag a rodiant yn ôl y rheol hon, tangnefedd arnynt a thrugaredd, ac ar Israel Duw.

17. O hyn allan na flined neb fi: canys dwyn yr wyf fi yn fy nghorff nodau'r Arglwydd Iesu.

18. Gras ein Harglwydd Iesu Grist a fyddo gyda'ch ysbryd chwi, frodyr. Amen.At y Galatiaid yr ysgrifennwyd o Rufain.

Galatiaid 6