Galatiaid 5:22-26 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

22. Eithr ffrwyth yr Ysbryd yw, cariad, llawenydd, tangnefedd, hirymaros, cymwynasgarwch, daioni, ffydd, addfwynder, dirwest:

23. Yn erbyn y cyfryw nid oes ddeddf.

24. A'r rhai sydd yn eiddo Crist, a groeshoeliasant y cnawd, â'i wyniau a'i chwantau.

25. Os byw yr ydym yn yr Ysbryd, rhodiwn hefyd yn yr Ysbryd.

26. Na fyddwn wag‐ogoneddgar, gan ymannog ein gilydd, gan ymgenfigennu wrth ein gilydd.

Galatiaid 5