Galatiaid 4:6-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. Ac oherwydd eich bod yn feibion, yr anfonodd Duw Ysbryd ei Fab i'ch calonnau chwi, yn llefain, Abba, Dad.

7. Felly nid wyt ti mwy yn was, ond yn fab; ac os mab, etifedd hefyd i Dduw trwy Grist.

8. Eithr y pryd hynny, pan oeddech heb adnabod Duw, chwi a wasanaethasoch y rhai wrth naturiaeth nid ydynt dduwiau.

9. Ac yn awr, a chwi yn adnabod Duw, ond yn hytrach yn adnabyddus gan Dduw, pa fodd yr ydych yn troi drachefn at yr egwyddorion llesg a thlodion, y rhai yr ydych yn chwennych drachefn o newydd eu gwasanaethu?

10. Cadw yr ydych ddiwrnodau, a misoedd, ac amseroedd, a blynyddoedd.

11. Y mae arnaf ofn amdanoch, rhag darfod i mi boeni wrthych yn ofer.

12. Byddwch fel myfi, canys yr wyf fi fel chwi, y brodyr, atolwg i chwi: ni wnaethoch i mi ddim cam.

13. A chwi a wyddoch mai trwy wendid y cnawd yr efengylais i chwi y waith gyntaf.

14. A'm profedigaeth, yr hon oedd yn fy nghnawd, ni ddiystyrasoch, ac ni ddirmygasoch; eithr chwi a'm derbyniasoch megis angel Duw, megis Crist Iesu.

15. Beth wrth hynny oedd eich dedwyddwch chwi? canys tystio yr wyf i chwi, pe buasai bosibl, y tynasech eich llygaid, ac a'u rhoesech i mi.

16. A euthum i gan hynny yn elyn i chwi, wrth ddywedyd i chwi y gwir?

17. Y maent yn rhoi mawr serch arnoch, ond nid yn dda; eithr chwennych y maent eich cau chwi allan, fel y rhoddoch fawr serch arnynt hwy.

18. Eithr da yw dwyn mawr serch mewn peth da yn wastadol, ac nid yn unig tra fyddwyf bresennol gyda chwi.

19. Fy mhlant bychain, y rhai yr wyf yn eu hesgor drachefn, hyd oni ffurfier Crist ynoch;

20. Ac mi a fynnwn pe bawn yn awr gyda chwi, a newidio fy llais; oherwydd yr wyf yn amau ohonoch.

Galatiaid 4