Galatiaid 4:1-4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A hyn yr wyf yn ei ddywedyd: dros gymaint o amser ag y mae'r etifedd yn fachgen, nid oes dim rhagor rhyngddo a gwas, er ei fod yn arglwydd ar y cwbl;

2. Eithr y mae efe dan ymgeleddwyr a llywodraethwyr, hyd yr amser a osodwyd gan y tad.

3. Felly ninnau hefyd, pan oeddem fechgyn, oeddem gaethion dan wyddorion y byd:

4. Ond pan ddaeth cyflawnder yr amser, y danfonodd Duw ei Fab, wedi ei wneuthur o wraig, wedi ei wneuthur dan y ddeddf;

Galatiaid 4