Galatiaid 3:27-29 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

27. Canys cynifer ohonoch ag a fedyddiwyd yng Nghrist, a wisgasoch Grist.

28. Nid oes nac Iddew na Groegwr, nid oes na chaeth na rhydd, nid oes na gwryw na benyw: canys chwi oll un ydych yng Nghrist Iesu.

29. Ac os eiddo Crist ydych, yna had Abraham ydych, ac etifeddion yn ôl yr addewid.

Galatiaid 3