Galatiaid 2:3-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Eithr Titus, yr hwn oedd gyda mi, er ei fod yn Roegwr, ni chymhellwyd chwaith i enwaedu arno:

4. A hynny oherwydd y gau frodyr a ddygasid i mewn, y rhai a ddaethant i mewn i ysbïo ein rhyddid ni yr hon sydd gennym yng Nghrist Iesu, fel y'n caethiwent ni:

5. I ba rai nid ymroesom trwy ddarostyngiad, naddo dros awr; fel yr arhosai gwirionedd yr efengyl gyda chwi.

6. A chan y rhai a dybid eu bod yn rhywbeth, (pa fath gynt oeddynt, nid yw ddim i mi; nid yw Duw yn derbyn wyneb dyn;) canys y rhai cyfrifol ni chwanegasant ddim i mi:

7. Eithr yn y gwrthwyneb, pan welsant ddarfod ymddiried i mi am efengyl y dienwaediad, megis am efengyl yr enwaediad i Pedr:

8. (Canys yr hwn oedd yn gweithredu yn nerthol yn Pedr i apostoliaeth yr enwaediad, a nerthol weithredodd ynof finnau hefyd tuag at y Cenhedloedd:)

9. A phan wybu Iago, a Cheffas, ac Ioan, y rhai a dybid eu bod yn golofnau, y gras a roddwyd i mi, hwy a roddasant i mi ac i Barnabas ddeau‐ddwylo cymdeithas; fel yr elem ni at y Cenhedloedd, a hwythau at yr enwaediad.

10. Yn unig ar fod i ni gofio'r tlodion; yr hyn hefyd y bûm i ddiwyd i'w wneuthur.

11. A phan ddaeth Pedr i Antiochia, mi a'i gwrthwynebais yn ei wyneb, am ei fod i'w feio.

12. Oblegid cyn dyfod rhai oddi wrth Iago, efe a fwytaodd gyda'r Cenhedloedd: ond wedi iddynt ddyfod, efe a giliodd, ac a'i neilltuodd ei hun oddi wrthynt, gan ofni'r rhai oedd o'r enwaediad.

13. A'r Iddewon eraill hefyd a gyd-ragrithiasant ag ef; yn gymaint ag y dygwyd Barnabas hefyd i'w rhagrith hwy.

14. Eithr pan welais i nad oeddynt yn iawn droedio at wirionedd yr efengyl, mi a ddywedais wrth Pedr yn eu gŵydd hwy oll, Os wyt ti, a thi yn Iddew, yn byw fel y Cenhedloedd, ac nid fel yr Iddewon, paham yr wyt ti yn cymell y Cenhedloedd i fyw yn Iddewaidd?

15. Nyni, y rhai wrth naturiaeth ydym Iddewon, ac nid o'r Cenhedloedd yn bechaduriaid,

16. Yn gwybod nad ydys yn cyfiawnhau dyn trwy weithredoedd y ddeddf, ond trwy ffydd Iesu Grist, ninnau hefyd a gredasom yng Nghrist Iesu, fel y'n cyfiawnhaer trwy ffydd Crist, ac nid trwy weithredoedd y ddeddf: oblegid ni chyfiawnheir un cnawd trwy weithredoedd y ddeddf.

17. Ac os, wrth geisio ein cyfiawnhau yng Nghrist, y'n caed ninnau hefyd yn bechaduriaid, a ydyw Crist am hynny yn weinidog pechod? Na ato Duw.

Galatiaid 2