Galatiaid 2:20-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

20. Mi a groeshoeliwyd gyda Christ: eithr byw ydwyf; eto nid myfi, ond Crist sydd yn byw ynof fi: a'r hyn yr ydwyf yr awron yn ei fyw yn y cnawd, ei fyw yr ydwyf trwy ffydd Mab Duw, yr hwn a'm carodd, ac a'i dodes ei hun drosof fi.

21. Nid wyf yn dirymu gras Duw: canys os o'r ddeddf y mae cyfiawnder, yna y bu Crist farw yn ofer.

Galatiaid 2