Galatiaid 2:12-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. Oblegid cyn dyfod rhai oddi wrth Iago, efe a fwytaodd gyda'r Cenhedloedd: ond wedi iddynt ddyfod, efe a giliodd, ac a'i neilltuodd ei hun oddi wrthynt, gan ofni'r rhai oedd o'r enwaediad.

13. A'r Iddewon eraill hefyd a gyd-ragrithiasant ag ef; yn gymaint ag y dygwyd Barnabas hefyd i'w rhagrith hwy.

14. Eithr pan welais i nad oeddynt yn iawn droedio at wirionedd yr efengyl, mi a ddywedais wrth Pedr yn eu gŵydd hwy oll, Os wyt ti, a thi yn Iddew, yn byw fel y Cenhedloedd, ac nid fel yr Iddewon, paham yr wyt ti yn cymell y Cenhedloedd i fyw yn Iddewaidd?

15. Nyni, y rhai wrth naturiaeth ydym Iddewon, ac nid o'r Cenhedloedd yn bechaduriaid,

16. Yn gwybod nad ydys yn cyfiawnhau dyn trwy weithredoedd y ddeddf, ond trwy ffydd Iesu Grist, ninnau hefyd a gredasom yng Nghrist Iesu, fel y'n cyfiawnhaer trwy ffydd Crist, ac nid trwy weithredoedd y ddeddf: oblegid ni chyfiawnheir un cnawd trwy weithredoedd y ddeddf.

17. Ac os, wrth geisio ein cyfiawnhau yng Nghrist, y'n caed ninnau hefyd yn bechaduriaid, a ydyw Crist am hynny yn weinidog pechod? Na ato Duw.

18. Canys os wyf fi yn adeiladu drachefn y pethau a ddistrywiais, yr wyf yn fy ngwneuthur fy hun yn droseddwr.

19. Canys yr wyf fi trwy'r ddeddf wedi marw i'r ddeddf, fel y byddwn fyw i Dduw.

20. Mi a groeshoeliwyd gyda Christ: eithr byw ydwyf; eto nid myfi, ond Crist sydd yn byw ynof fi: a'r hyn yr ydwyf yr awron yn ei fyw yn y cnawd, ei fyw yr ydwyf trwy ffydd Mab Duw, yr hwn a'm carodd, ac a'i dodes ei hun drosof fi.

21. Nid wyf yn dirymu gras Duw: canys os o'r ddeddf y mae cyfiawnder, yna y bu Crist farw yn ofer.

Galatiaid 2