Galatiaid 1:12-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. Canys nid gan ddyn y derbyniais i hi, nac y'm dysgwyd; eithr trwy ddatguddiad Iesu Grist.

13. Canys chwi a glywsoch fy ymarweddiad i gynt yn y grefydd Iddewig, i mi allan o fesur erlid eglwys Dduw, a'i hanrheithio hi;

14. Ac i mi gynyddu yn y grefydd Iddewig yn fwy na llawer o'm cyfoedion yn fy nghenedl fy hun, gan fod yn fwy awyddus i draddodiadau fy nhadau.

15. Ond pan welodd Duw yn dda, yr hwn a'm neilltuodd i o groth fy mam, ac a'm galwodd i trwy ei ras,

Galatiaid 1