Galarnad 5:2-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. Ein hetifeddiaeth ni a drowyd i estroniaid, a'n tai i ddieithriaid.

3. Amddifaid ydym heb dadau; ein mamau sydd megis gweddwon.

4. Yr ydym yn yfed ein dwfr am arian; ein coed sydd yn dyfod am werth.

5. Ein gwarrau sydd dan erlid; llafurio yr ydym, nid oes gorffwystra i ni.

6. Rhoesom ein llaw i'r Eifftiaid, i'r Asyriaid, i gael digon o fara.

7. Ein tadau a bechasant, ac nid ydynt: ninnau sydd yn dwyn eu cosb hwynt.

8. Gweision sydd yn llywodraethu arnom ni, heb fod a'n gwaredo o'u llaw hwynt.

9. Mewn enbydrwydd am ein heinioes y dygasom ein bara i mewn, oherwydd cleddyf yr anialwch.

10. Ein croen a dduodd fel ffwrn, gan y newyn tost.

11. Hwy a dreisiasant y gwragedd yn Seion, a'r morynion yn ninasoedd Jwda.

12. Crogasant dywysogion â'u dwylo; ni pherchid wynebau yr hynafgwyr.

13. Hwy a gymerasant y gwŷr ieuainc i falu; a'r plant a syrthiasant dan y coed.

Galarnad 5