Galarnad 5:1-6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Cofia, O Arglwydd, beth a ddaeth i ni: edrych a gwêl ein gwaradwydd.

2. Ein hetifeddiaeth ni a drowyd i estroniaid, a'n tai i ddieithriaid.

3. Amddifaid ydym heb dadau; ein mamau sydd megis gweddwon.

4. Yr ydym yn yfed ein dwfr am arian; ein coed sydd yn dyfod am werth.

5. Ein gwarrau sydd dan erlid; llafurio yr ydym, nid oes gorffwystra i ni.

6. Rhoesom ein llaw i'r Eifftiaid, i'r Asyriaid, i gael digon o fara.

Galarnad 5