Galarnad 3:9-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Efe a gaeodd fy ffyrdd â cherrig nadd; efe a wyrodd fy llwybrau.

10. Yr oedd efe i mi fel arth yn cynllwyn, neu lew mewn llochesau.

11. Efe a wyrodd fy ffyrdd, ac a'm drylliodd; yn anrheithiedig y gwnaeth fi.

12. Efe a anelodd ei fwa, ac a'm gosododd fel nod i saeth.

13. Efe a wnaeth i saethau ei gawell fyned i'm harennau.

14. Gwatwargerdd oeddwn i'm holl bobl, a'u cân ar hyd y dydd.

Galarnad 3