Galarnad 3:52-57 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

52. Fy ngelynion gan hela a'm heliasant yn ddiachos, fel aderyn.

53. Torasant ymaith fy einioes yn y pwll, a bwriasant gerrig arnaf.

54. Y dyfroedd a lifasant dros fy mhen: dywedais, Torrwyd fi ymaith.

55. Gelwais ar dy enw di, O Arglwydd, o'r pwll isaf.

56. Ti a glywaist fy llef: na chudd dy glust rhag fy uchenaid a'm gwaedd.

57. Ti a ddaethost yn nes y dydd y gelwais arnat: dywedaist, Nac ofna.

Galarnad 3