Galarnad 3:41-46 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

41. Dyrchafwn ein calonnau a'n dwylo at Dduw yn y nefoedd.

42. Nyni a wnaethom gamwedd, ac a fuom anufudd; tithau nid arbedaist.

43. Gorchuddiaist ni â soriant, ac erlidiaist ni: lleddaist, nid arbedaist.

44. Ti a'th guddiaist dy hun â chwmwl, fel na ddeuai ein gweddi trwodd.

45. Ti a'n gwnaethost yn sorod ac yn ysgubion yng nghanol y bobl.

46. Ein holl elynion a ledasant eu safnau yn ein herbyn.

Galarnad 3