Galarnad 3:4-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Efe a wnaeth fy nghnawd a'm croen yn hen; efe a ddrylliodd fy esgyrn.

5. Efe a adeiladodd i'm herbyn, ac a'm hamgylchodd â bustl ac â blinder.

6. Efe a'm gosododd mewn tywyll leoedd, fel y rhai sydd wedi marw er ys talm.

7. Efe a gaeodd o'm hamgylch, fel nad elwyf allan: efe a wnaeth fy llyffethair i yn drom.

8. Pan lefwyf, a phan floeddiwyf, efe a gae allan fy ngweddi.

Galarnad 3