7. Yr Arglwydd a wrthododd ei allor, a ffieiddiodd ei gysegr; rhoddodd gaerau ei phalasau hi yn llaw y gelyn: rhoddasant floedd yn nhŷ yr Arglwydd, megis ar ddydd uchel ŵyl.
8. Yr Arglwydd a fwriadodd ddifwyno mur merch Seion; efe a estynnodd linyn, ac nid ataliodd ei law rhag difetha: am hynny y gwnaeth efe i'r rhagfur ac i'r mur alaru; cydlesgasant.
9. Ei phyrth a soddasant i'r ddaear; efe a ddifethodd ac a ddrylliodd ei barrau hi: ei brenin a'i thywysogion ydynt ymysg y cenhedloedd: heb gyfraith y mae; a'i phroffwydi heb gael gweledigaeth gan yr Arglwydd.
10. Henuriaid merch Seion a eisteddant ar lawr, a dawant â sôn; gosodasant lwch ar eu pennau; ymwregysasant â sachliain: gwyryfon Jerwsalem a ostyngasant eu pennau i lawr.
11. Fy llygaid sydd yn pallu gan ddagrau, fy ymysgaroedd a gyffroesant, fy afu a dywalltwyd ar y ddaear; oherwydd dinistr merch fy mhobl, pan lewygodd y plant a'r rhai yn sugno yn heolydd y ddinas.
12. Hwy a ddywedant wrth eu mamau, Pa le y mae ŷd a gwin? pan lewygent fel yr archolledig yn heolydd y ddinas, pan dywalltent eu heneidiau ym mynwes eu mamau.