15. Yr Arglwydd a fathrodd fy holl rai grymus o'm mewn; efe a gyhoeddodd i'm herbyn gymanfa, i ddifetha fy ngwŷr ieuainc: fel gwinwryf y sathrodd yr Arglwydd y forwyn, merch Jwda.
16. Am hyn yr ydwyf yn wylo; y mae fy llygad, fy llygad, yn rhedeg gan ddwfr, oherwydd pellhau oddi wrthyf ddiddanwr a ddadebrai fy enaid: fy meibion sydd anrheithiedig, am i'r gelyn orchfygu.
17. Seion a ledodd ei dwylo, heb neb yn ei diddanu: yr Arglwydd a orchmynnodd am Jacob, fod ei elynion yn ei gylch: Jerwsalem sydd fel gwraig fisglwyfus yn eu mysg hwynt.
18. Cyfiawn yw yr Arglwydd; oblegid myfi a fûm anufudd i'w air ef: gwrandewch, atolwg, bobloedd oll, a gwelwch fy ngofid: fy morynion a'm gwŷr ieuainc a aethant i gaethiwed.
19. Gelwais am fy nghariadau, a hwy a'm twyllasant; fy offeiriaid a'm hynafgwyr a drengasant yn y ddinas, tra oeddynt yn ceisio iddynt fwyd i ddadebru eu henaid.
20. Gwêl, O Arglwydd; canys y mae yn gyfyng arnaf: fy ymysgaroedd a gyffroesant, fy nghalon a drodd ynof; oherwydd fy mod yn rhy anufudd: y mae y cleddyf yn difetha oddi allan, megis marwolaeth sydd gartref.