Exodus 9:1-3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Dos i mewn at Pharo, a llefara wrtho ef, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw yr Hebreaid; Gollwng ymaith fy mhobl, fel y'm gwasanaethont.

2. Oblegid, os gwrthodi eu gollwng hwynt ymaith, ac atal ohonot hwynt eto,

3. Wele, llaw yr Arglwydd fydd ar dy anifeiliaid, y rhai sydd yn y maes; ar feirch, ar asynnod, ar gamelod, ar y gwartheg, ac ar y defaid, y daw haint trwm iawn.

Exodus 9