3. A dywedasant hwythau, Duw yr Hebreaid a gyfarfu â ni: gad i ni fyned, atolwg, daith tridiau yn yr anialwch, ac aberthu i'r Arglwydd ein Duw; rhag iddo ein rhuthro â haint, neu â chleddyf.
4. A dywedodd brenin yr Aifft wrthynt, Moses ac Aaron, paham y perwch i'r bobl beidio â'u gwaith? ewch at eich beichiau.
5. Pharo hefyd a ddywedodd, Wele, pobl y wlad yn awr ydynt lawer, a pharasoch iddynt beidio â'u llwythau.
6. A gorchmynnodd Pharo, y dydd hwnnw, i'r rhai oedd feistriaid gwaith ar y bobl, a'u swyddogion, gan ddywedyd,
7. Na roddwch mwyach wellt i'r bobl i wneuthur priddfeini, megis o'r blaen; elont a chasglant wellt iddynt eu hunain.
8. A rhifedi'r priddfeini y rhai yr oeddynt hwy yn ei wneuthur o'r blaen a roddwch arnynt; na leihewch o hynny: canys segur ydynt; am hynny y maent yn gweiddi, gan ddywedyd, Gad i ni fyned ac aberthu i'n Duw.
9. Trymhaer y gwaith ar y gwŷr, a gweithiant ynddo; fel nad edrychant am eiriau ofer.
10. A meistriaid gwaith y bobl, a'u swyddogion, a aethant allan, ac a lefarasant wrth y bobl, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Pharo, Ni roddaf wellt i chwi.
11. Ewch chwi, a cheisiwch i chwi wellt lle y caffoch; er hynny ni leiheir dim o'ch gwaith.
12. A'r bobl a ymwasgarodd trwy holl wlad yr Aifft, i gasglu sofl yn lle gwellt.
13. A'r meistriaid gwaith oedd yn eu prysuro, gan ddywedyd, Gorffennwch eich gwaith, dogn dydd yn ei ddydd, megis pan oedd gwellt.
14. A churwyd swyddogion meibion Israel, y rhai a osodasai meistriaid gwaith Pharo arnynt hwy; a dywedwyd, Paham na orffenasoch eich tasg, ar wneuthur priddfeini, ddoe a heddiw, megis cyn hynny?
15. Yna swyddogion meibion Israel a ddaethant ac a lefasant ar Pharo, gan ddywedyd, Paham y gwnei fel hyn â'th weision?