Exodus 5:14-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. A churwyd swyddogion meibion Israel, y rhai a osodasai meistriaid gwaith Pharo arnynt hwy; a dywedwyd, Paham na orffenasoch eich tasg, ar wneuthur priddfeini, ddoe a heddiw, megis cyn hynny?

15. Yna swyddogion meibion Israel a ddaethant ac a lefasant ar Pharo, gan ddywedyd, Paham y gwnei fel hyn â'th weision?

16. Gwellt ni roddir i'th weision; a Gwnewch briddfeini i ni, meddant: ac wele dy weision a gurwyd; a'th bobl di dy hun sydd ar y bai.

17. Ac efe a ddywedodd, Segur, segur ydych; am hynny yr ydych chwi yn dywedyd, Gad i ni fyned ac aberthu i'r Arglwydd.

18. Am hynny ewch yn awr, gweithiwch; ac ni roddir gwellt i chwi; eto chwi a roddwch yr un cyfrif o'r priddfeini.

19. A swyddogion meibion Israel a'u gwelent eu hun mewn lle drwg, pan ddywedid, Na leihewch ddim o'ch priddfeini, dogn dydd yn ei ddydd.

20. A chyfarfuant â Moses ac Aaron, yn sefyll ar eu ffordd, pan oeddynt yn dyfod allan oddi wrth Pharo:

21. A dywedasant wrthynt, Edryched yr Arglwydd arnoch chwi, a barned; am i chwi beri i'n sawyr ni ddrewi gerbron Pharo, a cherbron ei weision, gan roddi cleddyf yn eu llaw hwynt i'n lladd ni.

22. A dychwelodd Moses at yr Arglwydd, ac a ddywedodd, O Arglwydd, paham y drygaist y bobl hyn? i ba beth y'm hanfonaist?

Exodus 5