Exodus 40:17-35 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

17. Felly yn y mis cyntaf o'r ail flwyddyn, ar y dydd cyntaf o'r mis, y codwyd y tabernacl.

18. A Moses a gododd y tabernacl, ac a sicrhaodd ei forteisiau, ac a osododd i fyny ei ystyllod, ac a roddes i mewn ei farrau, ac a gododd ei golofnau;

19. Ac a ledodd y babell‐len ar y tabernacl, ac a osododd do'r babell‐len arni oddi arnodd; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.

20. Cymerodd hefyd a rhoddodd y dystiolaeth yn yr arch, a gosododd y trosolion wrth yr arch, ac a roddodd y drugareddfa i fyny ar yr arch.

21. Ac efe a ddug yr arch i'r tabernacl, ac a osododd y wahanlen orchudd, i orchuddio arch y dystiolaeth; megis y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.

22. Ac efe a roddodd y bwrdd o fewn pabell y cyfarfod, ar ystlys y tabernacl, o du'r gogledd, o'r tu allan i'r wahanlen.

23. Ac efe a drefnodd yn drefnus arno ef y bara, gerbron yr Arglwydd; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.

24. Ac efe a osododd y canhwyllbren o fewn pabell y cyfarfod, ar gyfer y bwrdd, ar ystlys y tabernacl, o du'r deau.

25. Ac efe a oleuodd y lampau gerbron yr Arglwydd; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.

26. Efe a osododd hefyd yr allor aur ym mhabell y cyfarfod, o flaen y wahanlen.

27. Ac a arogldarthodd arni arogl‐darth peraidd; megis y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.

28. Ac efe a osododd y gaeadlen ar ddrws y tabernacl.

29. Ac efe a osododd allor y poethoffrwm wrth ddrws tabernacl pabell y cyfarfod; ac a offrymodd arni boethoffrwm a bwyd‐offrwm; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.

30. Efe a osododd y noe hefyd rhwng pabell y cyfarfod a'r allor, ac a roddodd yno ddwfr i ymolchi.

31. A Moses, ac Aaron, a'i feibion, a olchasant yno eu dwylo a'u traed.

32. Pan elent i babell y cyfarfod, a phan nesaent at yr allor, yr ymolchent; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.

33. Ac efe a gododd y cynteddfa o amgylch y tabernacl a'r allor, ac a roddodd gaeadlen ar borth y cynteddfa. Felly y gorffennodd Moses y gwaith.

34. Yna cwmwl a orchuddiodd babell y cyfarfod: a gogoniant yr Arglwydd a lanwodd y tabernacl.

35. Ac ni allai Moses fyned i babell y cyfarfod; am fod y cwmwl yn aros arni, a gogoniant yr Arglwydd yn llenwi'r tabernacl.

Exodus 40