Exodus 40:14-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. Dwg hefyd ei feibion ef, a gwisg hwynt â pheisiau.

15. Ac eneinia hwynt, megis yr eneiniaist eu tad hwynt, i offeiriadu i mi: felly bydd eu heneiniad iddynt yn offeiriadaeth dragwyddol, trwy eu cenedlaethau.

16. Felly Moses a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchmynnodd yr Arglwydd iddo; felly y gwnaeth efe.

17. Felly yn y mis cyntaf o'r ail flwyddyn, ar y dydd cyntaf o'r mis, y codwyd y tabernacl.

18. A Moses a gododd y tabernacl, ac a sicrhaodd ei forteisiau, ac a osododd i fyny ei ystyllod, ac a roddes i mewn ei farrau, ac a gododd ei golofnau;

19. Ac a ledodd y babell‐len ar y tabernacl, ac a osododd do'r babell‐len arni oddi arnodd; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.

20. Cymerodd hefyd a rhoddodd y dystiolaeth yn yr arch, a gosododd y trosolion wrth yr arch, ac a roddodd y drugareddfa i fyny ar yr arch.

21. Ac efe a ddug yr arch i'r tabernacl, ac a osododd y wahanlen orchudd, i orchuddio arch y dystiolaeth; megis y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.

22. Ac efe a roddodd y bwrdd o fewn pabell y cyfarfod, ar ystlys y tabernacl, o du'r gogledd, o'r tu allan i'r wahanlen.

23. Ac efe a drefnodd yn drefnus arno ef y bara, gerbron yr Arglwydd; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.

Exodus 40