Exodus 39:3-7 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. A gyrasant yr aur yn ddalennau teneuon, ac a'i torasant yn edafedd, i weithio yn y sidan glas, ac yn y porffor, ac yn yr ysgarlad, ac yn y lliain main, yn waith cywraint.

4. Ysgwyddau a wnaethant iddi yn cydio: wrth ei dau gwr y cydiwyd hi.

5. A gwregys cywraint ei effod ef, yr hwn oedd arni, ydoedd o'r un, yn unwaith â hi; o aur, sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main cyfrodedd: megis y gorchmynasai'r Arglwydd wrth Moses.

6. A hwy a weithiasant feini onics wedi eu gosod mewn boglynnau aur, wedi eu naddu â naddiadau sêl, ag enwau meibion Israel ynddynt.

7. A gosododd hwynt ar ysgwyddau yr effod, yn feini coffadwriaeth i feibion Israel; megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses.

Exodus 39