26. Cloch a phomgranad, a chloch a phomgranad, ar odre'r fantell o amgylch, i weini ynddynt: megis y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.
27. A hwy a wnaethant beisiau o liain main, o weadwaith, i Aaron ac i'w feibion.
28. A meitr o liain main, a chapiau hardd o liain main, a llodrau lliain o liain main cyfrodedd,
29. A gwregys o liain main cyfrodedd, ac o sidan glas, porffor, ac ysgarlad, o waith edau a nodwydd; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.
30. Gwnaethant hefyd dalaith y goron sanctaidd o aur pur; ac a ysgrifenasant arni ysgrifen, fel naddiad sĂȘl: SANCTEIDDRWYDD I'R ARGLWYDD.
31. A rhoddasant wrthi linyn o sidan glas, i'w dal hi i fyny ar y meitr; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.