5. Ac efe a fwriodd bedair modrwy i bedwar cwr yr alch bres, i fyned am drosolion.
6. Ac efe a wnaeth drosolion o goed Sittim; ac a'u gwisgodd hwynt รข phres.
7. Ac efe a dynnodd y trosolion trwy'r modrwyau ar ystlysau yr allor, i'w dwyn hi arnynt: yn gau y gwnaeth efe hi ag ystyllod.
8. Ac efe a wnaeth noe bres, a'i throed o bres, o ddrychau gwragedd, y rhai a ymgasglent yn finteioedd at ddrws pabell y cyfarfod.
9. Ac efe a wnaeth y cynteddfa: ar yr ystlys deau, tua'r deau, llenni'r cynteddfa oedd o liain main cyfrodedd, o gan cufydd:
10. A'u hugain colofn, ac a'u hugain mortais, o bres: a phennau'r colofnau a'u cylchau, o arian yr oeddynt.