Exodus 38:12-28 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. Ac o du'r gorllewin, llenni o ddeg cufydd a deugain: eu deg colofn, a'u deg mortais, a phennau'r colofnau, a'u cylchau, o arian.

13. Ac i du'r dwyrain tua'r dwyrain yr oedd llenni o ddeg cufydd a deugain.

14. Llenni o bymtheg cufydd a wnaeth efe o'r naill du i'r porth; eu tair colofn, a'u tair mortais.

15. Ac efe a wnaeth ar yr ail ystlys, oddeutu drws porth y cynteddfa, lenni o bymtheg cufydd; eu tair colofn, a'u tair mortais.

16. Holl lenni'r cynteddfa o amgylch a wnaeth efe o liain main cyfrodedd.

17. A morteisiau'r colofnau, oedd o bres; pennau'r colofnau, a'u cylchau, o arian; a gwisg eu pennau, o arian; a holl golofnau'r cynteddfa oedd wedi eu cylchu ag arian.

18. A chaeadlen drws y cynteddfa ydoedd waith edau a nodwydd o sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main cyfrodedd; ac yn ugain cufydd o hyd, a'i huchder o'i lled yn bum cufydd, ar gyfer llenni'r cynteddfa.

19. Eu pedair colofn hefyd, a'u pedair mortais, oedd o bres; a'u pennau o arian; gwisg eu pennau hefyd a'u cylchau oedd arian.

20. A holl hoelion y tabernacl, a'r cynteddfa oddi amgylch, oedd bres.

21. Dyma gyfrif perthynasau y tabernacl, sef tabernacl y dystiolaeth, y rhai a gyfrifwyd wrth orchymyn Moses, i wasanaeth y Lefiaid, trwy law Ithamar, mab Aaron yr offeiriad.

22. A Besaleel, mab Uri, mab Hur, o lwyth Jwda, a wnaeth yr hyn oll a orchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses.

23. A chydag ef yr ydoedd Aholïab, mab Achisamach, o lwyth Dan, saer cywraint, a gwniedydd mewn sidan glas, ac mewn porffor, ac mewn ysgarlad, ac mewn lliain main.

24. Yr holl aur a weithiwyd yn y gwaith, sef yn holl waith y cysegr, sef aur yr offrwm, ydoedd naw talent ar hugain, a saith gan sicl a deg ar hugain, yn ôl sicl y cysegr.

25. Ac arian y rhai a gyfrifwyd o'r gynulleidfa, oedd gan talent, a mil a saith gant a phymtheg sicl a thrigain, yn ôl sicl y cysegr.

26. Beca am bob pen; sef hanner sicl, yn ôl sicl y cysegr, am bob un a elai heibio dan rif, o fab ugeinmlwydd ac uchod: sef am chwe chan mil a thair mil a phum cant a deg a deugain.

27. Ac o'r can talent arian y bwriwyd morteisiau'r cysegr, a morteisiau'r wahanlen; can mortais o'r can talent, talent i bob mortais.

28. Ac o'r mil a saith gant a phymtheg sicl a thrigain, y gwnaeth efe bennau'r colofnau; ac y gwisgodd eu pennau, ac y cylchodd hwynt.

Exodus 38