1. Ac efe a wnaeth allor y poethoffrwm o goed Sittim: o bum cufydd ei hyd, a phum cufydd ei lled, yn bedeirongl; ac yn dri chufydd ei huchder.
2. Gwnaeth hefyd ei chyrn hi ar ei phedair congl: ei chyrn hi oedd o'r un; ac efe a'i gwisgodd hi â phres.
3. Efe a wnaeth hefyd holl lestri yr allor, y crochanau, a'r rhawiau, a'r cawgiau, a'r cigweiniau, a'r pedyll tân: ei holl lestri hi a wnaeth efe o bres.
4. Ac efe a wnaeth i'r allor alch bres, ar waith rhwyd, dan ei chwmpas oddi tanodd hyd ei hanner hi.
5. Ac efe a fwriodd bedair modrwy i bedwar cwr yr alch bres, i fyned am drosolion.
6. Ac efe a wnaeth drosolion o goed Sittim; ac a'u gwisgodd hwynt â phres.
7. Ac efe a dynnodd y trosolion trwy'r modrwyau ar ystlysau yr allor, i'w dwyn hi arnynt: yn gau y gwnaeth efe hi ag ystyllod.
8. Ac efe a wnaeth noe bres, a'i throed o bres, o ddrychau gwragedd, y rhai a ymgasglent yn finteioedd at ddrws pabell y cyfarfod.
9. Ac efe a wnaeth y cynteddfa: ar yr ystlys deau, tua'r deau, llenni'r cynteddfa oedd o liain main cyfrodedd, o gan cufydd: